Cyngor Cymuned
Capel Curig
Community Council
Pentref bychan a chymuned yng nghanol Eryri yw Capel Curig. Mae'n rhan o fwrdeistref sirol Conwy. Fe'i lleolir ar groesffordd lle mae'r A4086 o/i gyfeiriad Nant Gwynant a Beddgelert yn ymuno â'r A5.
Enwir y pentref ar ôl y clas a sefydlwyd gan y sant Curig (fl. 550?) yno. Yn anffodus cafodd yr eglwys bresennol, sy'n sefyll mewn llan ger y pentref, ei hatgyweirio'n sylweddol yn y 19eg ganrif. Eglwys fechan yw hi, 32 wrth 15 troedfedd gyda thransept sgwar diweddarach. Yn Oes y Tywysogion roedd yn perthyn i Briordy Beddgelert. Ceir llecyn o'r enw 'Gelli'r mynach' ar yr hen lôn i gyfeiriad Llyn Ogwen a Nant Ffrancon. Tu ôl i'r eglwys saif bryn isel Cefn y Capel. Cysegrir yr eglwys bresennol i Sant Cyriacus a'i fam Julitta.
Ar y ffordd i Fetws-y-Coed, 1 km ar ôl Pont Cyfyng i'r de-ddwyrain, ceir caer Rufeinig ar fferm Bryn-y-Gefeiliau, a sefydlwyd tua OC 90-100; fe'i henwyd Caer Llugwy gan yr archaeolegwyr a fu'n cloddio yno.
Mae'r pentref yn ymestyn o gwmpas y groesffordd ac ar hyd y lôn i gyfeiriad Betws-y-Coed i'r dwyrain. Mae'n dibynnu i raddau helaeth ar dwristiaeth ac mae siopau gweithgareddau awyr agored a gwestai yn amlwg yno.
Ceir golygfeydd bendigedig ac enwog o Lynnau Mymbyr a phedol Yr Wyddfa o Gapel. Trawiadol hefyd yw llethrau agored Moel Siabod i'r de-ddwyrain a mynyddoedd y Carneddau a rhan o'r Glyderau i'r gogledd. Yng Nghapel Curig y ganwyd Alwyn Rice Jones, Archesgob Cymru o 1991 hyd 1999.
Ffynhonnell: Wicipedia